Carniola
Gwedd
![]() | |
Math | mers ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Kranj ![]() |
Nawddsant | Agathius ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Awstria-Hwngari ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 400 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 46°N 14.5°E ![]() |
![]() | |
Talaith yn Slofenia yw Carniola (Slofeneg Kranjska, Almaeneg Krain). Dan reolaeth Ymerodraeth Awstria-Hwngari, tir y goron, Dugaeth Carniola (Herzogtum Krain), ydoedd. Rhennir y dalaith yn dair rhan: Carniola Uchaf, Carniola Isaf a Carniola Fewnol. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd Krainburg (heddiw Kranj), ond symudwyd y brifddinas wedyn i Laibach (heddiw Ljubljana). Diddymwyd y ddugaeth yn 1918, pryd ymgorfforwyd o fewn Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (wedyn Teyrnas Iwgoslafia). Heddiw mae'r dalaith o fewn Gweriniaeth Slofenia, lle mae'n llunio rhan fwya'r wlad.
