Khénifra
Gwedd
![]() | |
Math | dinas, urban commune of Morocco, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 123,738 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Khénifra ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 860 metr ![]() |
Gerllaw | Oum Er-Rbia ![]() |
Cyfesurynnau | 32.93°N 5.66°W ![]() |
Cod post | 54000 ![]() |
![]() | |

Dinas hynafol ym Moroco yw Khénifra (Amazigh Xnifra, Arabeg: خنيفرة). Fe'i lleolir yng ngogledd canolbarth y wlad i'r gorllewin o fynyddoedd yr Atlas Canol. Poblogaeth: 77,000 (cyfrifiad 2004).
Khénifra yw canolfan draddodiadol y Zayanes, un o lwythau Berber Moroco. Mae'n gorwedd tua 160 km o Fès a 300 km o Marrakech. Mae'n brifddinas talaith Khénifra (poblogaeth 523,000) yn rhanbarth Meknès-Tafilalet.
Mae'r afon Oum Er-Rbia ('Mam y Gwanwyn'), un o afonydd mwyaf Moroco, yn tarddu yn yr Atlas Canol tua 40 km o Khénifra ac yn llifo trwy'r ddinas ac wedyn ar gwrs gorllewinol i gyrraedd y Cefnfor Iwerydd ger Azemmour.
Mae mwyafrif y boblogaeth yn bobl Berber ac yn siarad Amazigh/Tamazigh, un o'r ieithoedd Berber.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan y ddinas
- (Amazigh) (Ffrangeg) Gwefan am Khénifra