Nesta Wyn Jones
Nesta Wyn Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 22 Mehefin 1946 ![]() Abergeirw ![]() |
Bu farw | 5 Ebrill 2025 ![]() Dolgellau ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr ![]() |

Bardd a llenor o Gymru oedd Nesta Wyn Jones (22 Mehefin 1946 – 5 Ebrill 2025).[1]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i magwyd yn Abergeirw, Meirionnydd. Mynychodd ysgol gynradd Rhydygorlan, Abergeirw, ac wedyn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, cyn mynd ymlaen i wneud gradd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Bangor.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ar y gyfres Gorwelion (llyfrau Project Cymraeg fel Mamiaith ar gyfer ysgolion uwchradd) ac yna gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth. Enillodd ysgoloriaeth deithio gan Gyngor y Celfyddydau ym 1976 ac eto ym 1991. Roedd yn aelod o'r Academi Gymreig er 1970.
Enillodd wobr Cyngor y Celfyddydau yn 1987 am Rhwng Chwerthin a Chrio.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn byw ar fferm yn Abergeirw, yn ardal Dolgellau. Priododd ei diweddar ŵr, Gwilym, ym 1982 a ganwyd ei merch Annest Gwilym ym 1983.[1]
Bu farw ar 5 Ebrill 2025 yn 78 mlwydd oed.[2] Mewn teyrnged iddi, dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, cyn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru ei bod yn “Bardd, llenor a beirniad arbennig. A ffrind annwyl i lawer. Meddwl yn arbennig am Annest a’r teulu oll yn eu hiraeth."[3]
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Cannwyll yn Olau (Gomer, 1969)
- Ffenest Ddu (Gomer, 1973)
- Dyddiadur Israel (Gomer, 1981)
- Rhwng Chwerthin a Chrio (Gomer, 1986)
- Cyfri Pryfed (Gomer, 1990)
- Dawns y Sêr (Gomer, 1999)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Y bardd Nesta Wyn Jones wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2025-04-06. Cyrchwyd 2025-04-06.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Nesta Wyn JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-17.
- ↑ "Y bardd a'r llenor, Nesta Wyn Jones, wedi marw". newyddion.s4c.cymru. 2025-04-06. Cyrchwyd 2025-04-06.