Secstant
Secstant morol pres | |
Math | offeryn adlewyrchol, offeryn mordwyo, offeryn seryddol ![]() |
---|---|
Dechreuwyd | 1757 ![]() |
Rhagflaenydd | octant, astrolab ![]() |
![]() |
Offeryn optegol a ddefnyddir mewn llongwriaeth, seryddiaeth a meysydd tebyg i fesur onglau gwrthrychau hirbell yw secstant. Mewn llongwriaeth mae'n mesur yr ongl rhwng y gorwel a chorff nefol (megis yr Haul, y Lleuad, neu seren) i gyfrifo lledred yr arsylwr. Mae'r ddyfais yn cynnwys arc graddedig o 60° ynghlwm wrth fframwaith. Mae'r ffrâm yn cynnwys braich symudol wedi'i gosod ar golyn yng nghanol y cylch, ac mae pen rhydd y fraich yn symud ar hyd yr arc. Ynghlwm wrth y ffrâm mae system o ddrychau a thelesgop bach.

Mae'r fraich symudol, sydd â drych wedi'i osod arni, yn cael ei symud nes bod y corff nefol (dyweder Seren y Gogledd) yn cael ei hadlewyrchu i mewn i ddrych yn unol â'r telesgop ac yn ymddangos, trwy'r telesgop, i gyd-fynd â'r gorwel. Yna darllenir ongl y seren uwchben y gorwel o arc graddedig. O'r ongl hon ac union amser y dydd fel y'i dangosir gan gronomedr morol, gellir cyfrifo'r lledred trwy gyfrwng tablau cyhoeddedig.[1] Mae'r offeryn yn cynnwys hidlenni i amddiffyn y llygaid wrth anelu at yr Haul yn ystod y dydd.

1 Anelwch y secstant tuag at y gorwel
2 Gwasgwch y clamp i ryddhau'r fraich
3 Symudwch ddelwedd yr haul i'r gorwel
4 Rhyddhewch y clamp ac addaswch ddelwedd yr haul
5 Siglwch i wirio bod y secstant yn unionsyth
6 Darllenwch yr ongl
Mae gan ffrâm secstant siâp sydd tua 1⁄6 o gylch (60°). O hyn y mae'r offeryn yn cael ei enw: sextans yw'r gair Lladin am "chweched".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) sextant. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Ebrill 2025.